Pan symudais fy nheulu ifanc i Gymru o Loegr yn 2017 er mwyn iddynt gael addysg Gymraeg, doedd gen i ddim syniad y byswn i 4 mlynedd yn ddiweddarach yn gweithio i’r Mudiad ar gynllun sydd yn allweddol i gynyddu’r nifer o blant sydd yn mynd i addysg Gymraeg yng Nghymru.  Dyma fy nhaith i gyda’r Mudiad fel aelod staff ond yn gyntaf fel Cadeirydd Pwyllgor Cylch Meithrin.

Fy nghyswllt cyntaf gyda’r Mudiad oedd gweld hysbyseb am gyfarfod cyhoeddus yn haf 2017.  Roedd perygl i’r Cylch Meithrin lleol gau heb gael pwyllgor newydd, a gan fy mod eisiau i fy mab allu mynd i’r Cylch fe es i i’r cyfarfod a dod allan fel Cadeirydd y pwyllgor newydd!  Doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i yn camu i mewn iddo!

O’r cychwyn fe gefais i a’r pwyllgor newydd sawl sialens, Arweinydd a 2 aelod o staff yn ymddiswyddo wythnos ar ôl ffurfio pwyllgor newydd a thrafferth recriwtio staff newydd, colli cofrestriad AGC ac ail-gofrestru, a dod o hyd i ddyledion a thrafferthion ariannol.

Mi oedd staff lleol y Mudiad yn gefn i mi a gweddill y pwyllgor, ac i staff y Cylch o’r diwrnod cyntaf, y Swyddog Cefnogi, Dirprwy Reolwr a’r Rheolwr Talaith.  Roedd cyngor a help llaw ar gael bob amser, roedd yna ffurflen / templed i bopeth, ac mi wnes i ei ddefnyddio i’r eithaf!  Rhaid hefyd diolch i staff yr Awdurdod Lleol, yr athrawon cysylltiol a staff Dechrau’n Deg, am eu dealltwriaeth, amynedd a chefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma.

Ar ôl 9 mis yn trio peidio boddi yn y pen dyfn, roedd y Cylch wedi sefydlogi ac roedd gan y pwyllgor amser i ddechrau edrych ymlaen at y dyfodol ac i ddatblygu’r Cylch yn hytrach na datrys problemau o’r gorffennol.  I mi yn bersonol daeth cyfle i ymuno gyda’r Mudiad fel aelod staff yn gweithio ar gynllun Sefydlu a Symud i sefydlu Cylchoedd Meithrin newydd.  Roedd yr holl brofiad roeddwn wedi cael dros y 9 mis blaenorol wedi fy rhoi mewn lle da i ddeall sut mae Cylchoedd Meithrin yn gweithredu, beth sydd yn gallu mynd o’i le ac felly sut i sefydlu o’r newydd gyda phrosesau da mewn lle o’r cychwyn.

Dros haf 2018 fe wnaethom symud y Cylch i leoliad newydd oedd yn fwy addas i anghenion y Cylch.  Roedd staff y Cylch wedi bod ar gytundebau dros-dro oherwydd yr holl ansicrwydd dros y flwyddyn flaenorol, felly roedd yn bwysig i ni fel pwyllgor allu penodi staff i gytundebau parhaol er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i bawb.  Roedd y staff wedi aros gyda ni trwy’r amseroedd annodd a dwi’n ddiolchgar hyd heddiw am eu gwaith caled a’u cefnogaeth dros y 2 flynedd roeddwn yn Gadeirydd.

Yn ystod fy ail flwyddyn fel Cadeirydd fe gawsom y newyddion da bod yr Ysgol Gymraeg lleol yn cael estyniad gydag ystafell bwrpasol i’r Cylch yn yr Ysgol (a rŵan yn Medi 2021 mae gobaith y bydd y Cylch yn symud i’r Ysgol dechrau 2022).

Ac yna ym mis Mai 2019 daeth arolygiad ar y cyd gan Estyn ac AGC.  Roedd yr Arweinydd a’r staff wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r athrawes gysylltiol i baratoi gan ein bod yn ymwybodol y byddai yn dod rhywbryd yn ystod y flwyddyn, ond wrth gwrs roedd pawb yn nerfus gan fod neb ar y staff na phwyllgor wedi bod trwy’r broses o’r blaen.  Fel Cadeirydd fe gefais i sgwrs gyda’r arolygwyr yn ogystal ag uwchlwytho dogfennaeth o flaen llaw, roedd yn teimlo dipyn fel arholiad!

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod fe gawsom gyfarfod gyda’r arolygwyr i gael adborth llafar, fi, y 3 aelod staff, y Swyddog Cefnogi a’r athrawes gysylltiol.  Wrth i’r arolygwyr fynd trwy eu hadborth ym mhob ardal, roedd gwên pawb yn mynd yn fwy a fwy llydan, “Da” ym mhob adran!  Pan adawodd yr arolygwyr roedd ‘na ‘group hug’ anferth a dwi’n siŵr bod deigryn mewn mwy nag un llygad.

Dau fis yn ddiweddarach fe lwyddais i recriwtio pwyllgor newydd o blith rhieni’r Cylch, a throsglwyddo popeth i’w dwylo nhw.  Mae’r Cylch wedi parhau i ffynnu o dan arweiniad y pwyllgor a’r staff gwych, er gwaethaf Covid-19, ac erbyn hyn mae pwyllgor newydd arall yn paratoi i symud y Cylch i’r Ysgol o fewn ychydig fisoedd.

Beth ges i o’r profiad? Teimlad o falchder i allu dweud fy mod i a’r Pwyllgor wedi gadael y Cylch mewn lle llawer gwell nag oedd o pan wnaethon ni gychwyn, y teimlad gwych pan gafodd y Cylch ganlyniadau’r arolwg, a gyrfa newydd gyda’r Mudiad!

Oedd o’n waith caled? Oedd ar adegau

Oedd o’n achosi straen? Oedd ar adegau

Oedd o werth o er mwyn gallu cadw’r Cylch ar agor ac i sicrhau ei ddyfodol? Oedd 100%.

 

Gan Sali Edwards, Prif Swyddog Sefydlu a Symud