Wyt ti’n meddwl am wirfoddoli ar bwyllgor Cylch Meithrin, wyt ti’n gwirfoddoli eisoes neu eisiau sefydlu pwyllgor newydd sbon? Rydym yma i dy gefnogi.

Mae’r Cylch yn rhoi llu o brofiadau addysgol a llawn hwyl i blant a’u teuluoedd trwy’r Gymraeg sy’n gwneud gwahaniaeth i blant bach dy ardal.

Rydym yn croesawu ac yn annog pobl o bob cefndir i fod yn rhan o bwyllgor y cylch a does dim rhaid i ti fod yn rhiant dy hun i fod yn aelod.

Mae modd i ti gofrestru diddordeb mewn gwirfoddoli ar bwyllgor Cylch Meithrin drwy linc yma.

Kate Rothwell- Ysgrifennydd Cylch Meithrin Hywel Dda

Dyma Kate yn sôn am ei phrofiadau hi o wirfoddoli ar bwyllgor cylch.

 

Buddug Eidda –  Trysorydd Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel

Dyma Buddug yn sôn am ei phrofiadau hi o wirfoddoli ar bwyllgor cylch.

Enillydd Categori Gwirfoddolwr Gwobrau 2021

Eifiona Wood – Cylch Meithrin Abersoch

 

 

Enillydd Categori Pwyllgor Gwobrau 2021

Cylch Meithrin Glantwymyn