Rydym yn ymfalchïo yn y gwahanol raglenni hyfforddiant a gynigiwn i greu gweithlu cymwys a phroffesiynol.

Mae profiadau blynyddoedd cynnar yn dylanwadu’n fawr ar blentyn am weddill ei fywyd ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifri. Rydym yn ddigyfaddawd wrth ddarparu profiadau dysgu a chwarae cyfoethog, er mwyn rhoi’r profiadau chwarae a dysgu gorau trwy gyfrwng y Gymraeg i blant bach Cymru.