Dylid ceisio trefnu amserlen codi arian am y flwyddyn a gosod amcanion clir o’r hyn sydd ei angen.

Gellir sefydlu is-bwyllgor codi arian a phenodi swyddog penodol ar y bwyllgor i arwain ar y gwaith. Mae modd gwario’r arian a godir drwy weithgareddau codi arian ar unrhyw beth perthnasol i’r cylch – gan gynnwys rhent a chyflogau.

Gwefannau Codi Arian ar-lein

Mae nifer o dudalennau gwe gellid eu defnyddio ar gyfer ymgyrch codi arian e.e. JustGiving, Gofundme ayyb.  Mae sefydlu tudalen ar-lein ar gyfer gweithgaredd codi arian yn ei gwneud yn haws i rieni a chefnogwyr eraill y Cylch rannu gyda’u teuluoedd ehangach a gallwch roi linc ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cylch.  Mae rhai gwefannau yn codi ffioedd i gofrestru neu yn cymryd ffi o bob cyfraniad sydd yn cael ei wneud, mae mwy o wybodaeth am y gwahanol wefannau ar gael yma.

Gan bod y rhan fwyaf o Gylchoedd yn elusennau cofrestredig mae posib cofrestru’r elusen i dderbyn Rhodd Gymorth (Gift Aid) er mwyn gwneud y mwyaf o bob cyfraniad (hyd at 20% o’r cyfraniad yn ychwanegol). Mwy o wybodaeth am sut i gofrestru yma.

Gwefannau Siopa ar-lein

Mae nifer o wefannau yn cynnig cyfraniad i elusen am siopa ar-lein trwy eu tudalen gwe e.e. Easyfundraising, Give As You Live, The Giving Machine, Amazon Smile. Mae elusennau cofrestredig yn cofrestru gyda’r gwefannau ac yna gall eu cefnogwyr fynd trwy’r wefan at eu siopau ar-lein arferol e.e. Amazon, Next ayyb, a bydd % o beth mae’r cefnogwr yn ei wario yn cael ei dalu yn syth i’r elusen. Dydi’r ffordd yma o godi arian ddim yn costio ceiniog i gefnogwyr, y cwbl sydd rhaid iddynt wneud ydi sefydlu cyfrif, dewis y Cylch fel eu helusen, a cofio mynd trwy’r wefan i’r gwefannau siopa.

 

Syniadau codi arian:

  • Pacio bagiau neu gynllun talebau archfarchnad lleol (enghraifft)
  • Gweithgareddau noddedig (taith gerdded, ras feics)
  • Raffl – cliciwch am ganllawiau cynnal raffl
  • Cyngerdd yn y Cylch Meithrin – gwerthu tocynnau
  • Clwb 100
  • Sêl Gist Car
  • Stondin Gacennau
  • Bore Coffi
  • Mae Mudiad Meithrin yn cynnal cyfleoedd codi arian yn ystod y flwyddyn e.e. Parti Pyjamas neu Rhywbeth Neis i De
  • Mae gan Mudiad Meithrin hefyd ‘Clwb Cant’ sy’n gyfle i’r cylchoedd ennill gwobr ariannol ac yn ffordd o godi arian

Gellir dod o hyd i wybodaeth am elfennau cyfreithiol codi arian yma ar wefan y Rheolydd Codi Arian  (Fundraising Regulator).