Y RHEOL AUR WRTH YSTYRIED CYLLID YW: RHAID SICRHAU FOD YR INCWM YN FWY NA’R GWARIANT.

Mae ystod eang o adnoddau sy’n cefnogi materion cyllid ar gael i’n haelodau ar y fewnrwyd. Mae hefyd canllawiau cyllid yn y Llyfr Bach Piws: Canllaw Mudiad Meithrin i faterion ariannol Cylchoedd Meithrin.

Mae gan y Comisiwn Elusennau ganllawiau Rheoli Cyllid Elusen.

Os oes gan eich Cylch Meithrin anawsterau ariannol, cysylltwch â‘ch Cydlynydd Cefnogi lleol mor fuan â phosib.

Cyllideb

  • Rhaid gwneud cyllideb ar gyfer y Cylch Meithrin yn flynyddol a’i adolygu ymhob cyfarfod Pwyllgor er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau ariannol cyn iddynt fynd yn broblemau mawr.
  • Wrth greu’r gyllideb rhaid cytuno ar raddfa ffioedd sy’n ddigonol i sicrhau fod y Cylch yn torri’n hafal.
  • Cofiwch na fydd ffioedd un plentyn yn ddigon i dalu cyflog un aelod o staff. Byddwch angen ystyried nifer y plant yn erbyn costau staffio a’r cymarebau staffio:plant angenrheidiol.

Cyfrifon

  • Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol mae’n rhaid gwneud Cyfrifon Blynyddol, a rhaid cael rhywun allanol ac annibynnol i archwilio’r cyfrifon. Mae’n rhaid anfon copi o’r cyfrifon at Mudiad Meithrin a’r Comisiwn Elusennau (os ydych yn elusen gofrestredig).
  • Gallwch ddefnyddio llyfr cyfrifon (ar gael am ddim o brif swyddfa Mudiad Meithrin) neu system Excel i’w gwneud yn electroneg.
  • Nid oes rhaid i’r Trysorydd wneud y gwaith yma, gellir talu cyfrifydd neu unigolyn arall i wneud y gwaith yma ar ran y Pwyllgor. Nid oes hawl gan y pwyllgor dalu’r Trysorydd am gyflawni’r gwaith nac unrhyw un arall sy’n arwyddo sieciau ar ran y cylch.

Rheoli Cyllid

  • Rhaid cael o leiaf 2 berson i arwyddo sieciau, ni all y rhain fod yn gyflogedig gan y Cylch Meithrin ac ni ddylai’r rhain fod yn aelodau o’r un teulu.
  • Mae’n rhaid sicrhau fod system gadarn yn ei le i reoli’r cyllid trwy baratoi cynllun busnes ar gyfer y cylch a’i adolygu’n flynyddol. Mae templed Cynllun Busnes yn y Llyfr Mawr Piws.
  • Mae hefyd yn arfer dda i’r Cylch greu cynllun gweithredu codi arian. Mae llawer o syniadau ar y dudalen Grantiau.

Llif Arian

1. Ffioedd

  • Er mwyn sicrhau llif arian cyson dylid casglu ffioedd yn rheolaidd ar ddechrau cyfnod wythnosol/misol/tymhorol.
  • Awgrymir sefydlu system o ddebyd uniongyrchol yn hytrach na derbyn arian parod.
  • Rhaid sicrhau fod rhieni’n derbyn anfoneb/derbynneb ar gyfer eu taliadau.
  1. Anfonebau i’r Awdurdod Lleol / Talebau Gofal Plant / Gofal Plant Di-Dreth
  • Os yw’r cylch yn rhan o’r Cynllun Addysg Plant 3 oed, Dechrau’n Deg a/neu’r Cynnig Gofal Plant (30 awr) rhaid sicrhau fod anfonebau’n cael eu hanfon i’r adran gywir ac yn brydlon.
  • Mae’n bosib i Gylch gofrestru i dderbyn talebau gofal plant.Gall rhieni dalu am le eu plant yn y Cylch drwy ddefnyddio’r talebau.
  • Gofal Plant Di-Dreth: Cynllun gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo rhieni i dalu am ofal plant. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’r Cylch gofrestru efo HMRC gan ddefnyddio eu cyfeirnod treth unigryw.
  1. Dyledwyr:
  • Dylid gwneud popeth posib i osgoi sefyllfa lle mae gan y Cylch ddyledwyr.
  • Dylid sicrhau fod ffioedd yn cael eu casglu o flaen llaw – ar ddechrau wythnos, mis neu dymor. Dylai hyn fod yn eglur yn y cytundeb rhieni a’r Cylch Meithrin.
  • Os oes sefyllfa’n codi ble mae arian yn ddyledus i’r Cylch dylid mynd i’r afael â hyn cyn gynted â phosib. Mae enghreifftiau o lythyrau posib gall y cylch eu hanfon at ddyledwyr yn y ‘Llyfr Mawr Piws’ sydd ar gael i’n haelodau ar y fewnrwyd.