Mae’n rhaid i bob Cylch Meithrin gael Pwyllgor Rheoli, sef grŵp o bobl sy'n rheoli’r Cylch Meithrin. Defnyddir Pwyllgor Rheoli fel term i ddisgrifio corff llywodraethu’r Cylch Meithrin. Y corff yma sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros y cylch.
(Ni all pawb fod yn ymddiriedolwr elusen. Darllenwch ganllawiau'r Comisiwn Elusennau i weld meini prawf cymhwyster ar gyfer ymddiriedolwyr.)
Mae elfennau cyfreithiol rhedeg Cylch Meithrin yn cynnwys cydymffurfio â:
- Safonau Gofynol Cenedlaethol AGC
- Cyfraith Cyflogaeth
- Rheoliadau'r Comisiwn Elusennau
Er nad oes gan Mudiad Meithrin hawliau cyfreithiol dros y Cylch Meithrin maent yma i’ch cefnogi bob cam.
Yn ddibynnol ar strwythur cyfreithiol y pwyllgor, bydd gan bob Cylch Meithrin naill ai Person Cofrestredig neu Unigolyn Cyfrifol, yn ogystal a Chadeirydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd. Os yw'n bosibl, mae'n arfer da hefyd i gael is-bwyllgor gydag is-swyddogion i rannu'r gwaith.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol a rôlau aelodau'r pwyllgor.