Yn ein cyfres podlediadau Saesneg #BabyStepsIntoWelsh mae Nia Parry wedi bod yn sgwrsio gyda theuluoedd am eu profiadau, gofidiau a chwestiynau am Addysg Gymraeg. Gallwch wrando a dilyn y gyfres yma: www.podfollow.com/babysteps.

Un ddynes sy’n sicr ei bod wedi dilyn y llwybr addysg gorau ar gyfer ei mab ydi’r cyflwynydd a darlledwr newyddion Wales Today Lucy Owen. Mae Lucy a’i gwr Rhodri Owen, darlledwr a chyflwynydd teledu Heno, wedi rhoi addysg Gymraeg i’w mab Gabriel (Gabs), sydd bellach yn 13 mlwydd oed. Bu Nia’n sgwrsio gyda Lucy er mwyn deall y camau a arweiniodd i’r penderfyniad dros addysg Gymraeg a’r ymchwil trylwyr o flaen llaw!

“Dwi’n dod o Ddinas Powys yn wreiddiol, merch o Gaerdydd ydw i! Yn ôl yn y 70au, doedd Cymraeg ddim yn cael ei annog yn yr ysgol. Ges i ddewis i barhau gyda’r Gymraeg neu ddysgu Almaeneg. Doedd dim pwyslais o gwbl ar ddysgu Cymraeg ac fe ges i’n denu at Almaeneg.” Lucy Owen

Fe newidiodd pethau i Lucy unwaith iddi ddyweddïo gyda Rhodri. Roedd yn angerddol am ddysgu’r iaith ac wedi cychwyn dysgu yn dda, gan gyfarfod Nia Parry ar raglen deledu Iaith ar Daith 10 mlynedd yn ôl! Roedd yn dysgu Cymraeg am 2 awr y dydd, ond roedd yn ormod iddi.

 “Nes i golli fy ffordd ychydig ar ôl hynny. Fyswn i wrth fy modd taswn i wedi cael fy magu heddiw, ble mae pwyslais mawr ar ddysgu a siarad yr iaith. Roeddwn yn benderfynol bod Gabs yn cael cyfle i ddysgu’r iaith a’i fod yn rhan o’i fywyd bob dydd.” Lucy Owen

Dechreuodd taith Gabriel yn ddwy a hanner pan aeth i’r Cylch Meithrin lleol ac ymlaen i Ysgol Gynradd Gymraeg. Aeth pethau yn fwy cymhleth wedyn wrth i’r newyddiadurwraig wneud ei gwaith ymchwil trylwyr am fuddion addysg Gymraeg!

“Nes i raglen dogfen am fuddion addysg Gymraeg ac roeddwn o ddifri am y peth. Un o’r pethau wnaeth fy mherswadio oedd niwrowyddonydd a oedd yn egluro fod dysgu drwy’r Gymraeg yn llesol oherwydd bod Gabs yn gorfod cyfieithu’r gwaith i mi ac yna yn ôl i’r Gymraeg ar ôl trafod gyda mi. Roedd y broses yma helpu iddo ddysgu a deall. Nes i erioed feddwl amdano fel hyn. Anhygoel!

Mae Gabriel ei hun wedi bod yn frwd iawn i barhau’r addysg Gymraeg hefyd, gan ddewis codi’n gynt i ddal y bws i’r Ysgol Gymraeg, er bod yr Ysgol Saesneg yn agosach! Mae Lucy’n falch ei fod o hefyd yn parhau i fod yn ffrindiau da gyda rhai o blant y Cylch Meithrin!

“Os bydd Gabs yn aros yng Nghymru, bydd y gallu i siarad Cymraeg o fudd mawr iddo ac yn cynyddu ei siawns o gael swydd dda. Roedd Gabs 120% eisiau parhau gyda’i addysg yn y Gymraeg ac mi ydan ni fel rhieni yn gefnogol iawn o hyn”. Lucy Owen

Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn yma a chofiwch rannu gyda theuluoedd eraill sy’n ceisio penderfynu ar y llwybr cywir ar gyfer addysg eu plant ar hyn o bryd: www.podfollow.com/babysteps.